Cyfwelydd arolwg cwmpas y cyfrifiad
Cyfwelwyr arolwg cwmpas y cyfrifiad
15, 25 neu 37 awr yr wythnos
Contract: 27 Ebrill 2021 – 2 Mehefin 2021 + gwyliau
Cyflog yn ddibynnol ar leoliad
Band 1 – £14.61
Band 2 – £12.64
Band 3 – £11.22
Dim oriau gwaith dyddiol penodol ond bydd rhaid i chi weithio o fewn yr amseroedd canlynol:
O ddydd Llun i ddydd Sadwrn:9am ac 8pm
Dydd Sul a gwyliau banc: 10am a 4pm
Yn ogystal, rhaid i chi weithio o leiaf 60% o'r oriau hyn yn ystod yr amseroedd canlynol:
O ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 4pm ac 8pm
Dydd Sadwrn, rhwng 9am ac 8pm
Dydd Sul, rhwng 10am a 4pm
Cyfathrebwyr hyderus sy'n gwneud y cyfrifiad
Arolwg o boblogaeth gyfan Cymru a Lloegr yw'r cyfrifiad, sy'n digwydd bob 10 mlynedd. Caiff ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ac mae'n rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr.
Caiff y wybodaeth rydym yn ei chasglu ei defnyddio i wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bawb – pethau fel faint o ysgolion, meddygfeydd ac ysbytai sydd eu hangen arnom.
Rydym ni bellach yn chwilio am dîm a all gwblhau cyfweliadau ar garreg y drws mewn ardaloedd penodol. Byddwch yn ennill profiad gwerthfawr ac yn helpu i wella dyfodol eich cymuned.
Y rôl
Ydych chi'n mwynhau siarad â phobl o bob cefndir? Yn y rôl dros dro bwysig hon, byddwch yn cwblhau cyfweliadau ar garreg y drws gyda phob cartref yn eich ardal cod post benodol. Byddwch yn rhestru ac yn cofnodi pob eiddo mewn ardal benodol ar ffôn clyfar, byddwch yn curo ar ddrysau ac yn annog preswylwyr i gwblhau cyfweliad ar garreg y drws gyda chi.
Bydd rhai pobl yn poeni am lenwi'r holiadur. Dyna lle byddwch chi'n defnyddio eich sgiliau cyfathrebu neu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid gwych. Byddwch yn rhoi tawelwch meddwl i'r bobl hyn, ac yn ymweld â chyfeiriadau dro ar ôl tro yn ôl yr angen nes i chi gael ymateb.
Rôl annibynnol yw hon. Byddwch allan yma ac acw mewn ardal benodol ac yn gweithio yn unol â'ch amserlen eich hun, heb unrhyw ganllawiau penodol. Cewch gymorth gan arweinydd tîm a fydd yn eich helpu i ymgyfarwyddo â'ch rôl, ac yn rhoi cymorth i chi yn ôl yr angen.
Amdanoch chi
Rydych yn meddu ar sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid, ac rydych yn hyderus yn siarad ag aelodau o'r cyhoedd a'r gymuned leol. Bydd achlysuron pan fydd y gwaith hwn yn heriol o bosibl, felly bydd angen i chi allu cadw'ch pen a bod yn broffesiynol pe bai hynny'n digwydd. Mae meddu ar sgiliau ysgrifenedig a llafar da yn Saesneg yn bwysig (byddai sgiliau Cymraeg yn fanteisiol os byddwch yn gweithio yng Nghymru). Dylech fod yn drefnus, yn llawn menter, a theimlo'n hyderus yn defnyddio ffôn clyfar a chymwyseddau amrywiol.
Yn dibynnu ar eich lleoliad, mae'n bosibl y bydd angen i chi feddu ar drwydded yrru lawn gyfredol y DU a bod â cherbyd modur i'w ddefnyddio, wedi'i yswirio at ddefnydd busnes. Byddwch yn cael eich talu am dreuliau teithio yn eich ardal waith.
Pobl sy'n gwneud y cyfrifiad. Os ydych chi'n cyfathrebu'n hyderus ac os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud Cyfrifiad 2021 yn llwyddiant i bawb, gwnewch gais am rôl cyfwelydd arolwg cwmpas y cyfrifiad.
Gallwn ni ond eich cyflogi os ydych chi'n gymwys i weithio i'r Gwasanaeth Sifil. Dysgwch fwy am reolau cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil.
COVID-19
Byddwn yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â chanllawiau priodol y llywodraeth er mwyn eich cadw chi'n ddiogel pan fyddwch yn gweithio i SYG. Bydd cyfarpar diogelu personol priodol, gan gynnwys diheintydd dwylo a masgiau wyneb, yn cael eu darparu i'r holl staff. Er mwyn eich cadw'n ddiogel, bydd angen i chi ddefnyddio a gwisgo'r cyfarpar diogelu personol hwnnw, yn ôl y cyfarwyddyd, pan fyddwch chi'n gweithio. Bydd pawb yn cadw pellter cymdeithasol drwy gydol gweithrediad y cyfrifiad.
Reference: 42043014
Bank or payment details should never be provided when applying for a job. For information on how to stay safe in your job search, visit SAFERjobs.
Report this jobNot quite what you are looking for? Try these similar searches
Replace a job alert
Replace a job alert
Get Job Alerts straight to your inbox
"Office Assistant jobs in London"
Your Job Alert has been created and your search saved.
'Saved search name'