The following job is no longer available:
SWYDDOG CEFNOGI PROSIECT ARGYFWNG COSTAU BYW

SWYDDOG CEFNOGI PROSIECT ARGYFWNG COSTAU BYW

Posted 8 April by One Voice Wales
Ended

UN LLAIS CYMRU

SWYDDOG CEFNOGI PROSIECT ARGYFWNG COSTAU BYW (37 awr yr wythnos) - Cyflog £33315 yf (Codiad cyflog yn yr arfaeth) - Gweithio gartref

MAE’R SWYDD AM GYFNODAU PENODOL TAN 31 MAWRTH 2026

Darparu cymorth i’r Rheolydd Prosiect a’r Swyddog Prosiect, fydd yn cynnwys cynorthwyo gyda gweithdai a chyfarfodydd, cadw cofnodion, gwneud gwaith ymchwil, cydlynu cyfathrebu a gweinyddu pecynnau TG y tîm. Bydd angen ichi feddu ar radd israddedig a/neu brofiad gwaith cyfatebol mewn rôl cefnogi prosiect ynghyd â phrofiad o weithio gyda gwahanol fudd-ddeiliaid a sefydliadau. Dylai fod gennych wybodaeth fras am dechnegau rheoli prosiect a meddu ar sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar a sgiliau TG rhagorol.

Bydd y tîm prosiect yn gyfrifol am gyflawni cynllun prosiect er mwyn rhoi gwell cymorth i aelwydydd incwm isel a phobl fregus mewn cymunedau ledled Cymru.

Bydd deiliaid y swydd yn gweithio gartref ac mae lwfans gweithio gartref yn daladwy.

(Un Llais Cymru yw’r corff cynrychioliadol cenedlaethol ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru, ac mae’n cynnig llais cryf i gynrychioli buddiannau cynghorau a nifer fawr o wasanaethau o ansawdd uchel i gefnogi eu gwaith gan gynnwys gwasanaethau gwybodaeth a chynghori, cymorth gyda pholisi a gweithdrefnau, gwasanaethau hyfforddiant a datblygu, gwasanaethau ymgynghorol, a chynrychioli a hyrwyddo’r sector).

Mae’r disgrifiad swydd a’r ffurflen gais ar gyfer y swydd ar dudalen flaen ein gwefan

DYDDIAD CAU - Ganol nos ar 19 Ebrill 2024

DYDDIAD CYFWELIAD: 3 Mai 2024.

Reference: 52436614

Please note Reed.co.uk does not communicate with candidates via Whatsapp, and we will never ask you to provide your bank, passport or driving licence details during the application process. To stay safe in your job search and flexible work, we recommend visiting JobsAware, a non-profit, joint industry and law enforcement organisation working to combat labour market abuse. Visit the JobsAware website for information and free expert advice for safer work.

Report this job

Not quite what you are looking for? Try these similar searches