The following job is no longer available:
Assistant Harbour Master / Harbwrfeistr cynorthwyol

Assistant Harbour Master / Harbwrfeistr cynorthwyol

Posted 15 April by National Trust
Ended
Summary

Rydym yn chwilio am unigolyn cyfeillgar a hyderus i oruchwylio'r traeth a'r harbwr ym Mhorthdinllaen dros dymor yr haf. Ydych chi'n gyfathrebwr ardderchog gyda sgiliau ymarferol da a dealltwriaeth o'r amgylchedd morol? Os ydych chi'n caru'r arfordir, mwynhau gweithio yn yr awyr agored a sgwrsio gyda phobl, yna fe allai'r rôl yma fod i chi.

Byddai wythnos waith nodweddiadol yn golygu gweithio 10am-4pm 5 diwrnod yr wythnos (i gynnwys penwythnosau a gwyliau banc).

Sylwch fod gallu sgwrsio yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

We're looking for a friendly and confident individual to supervise the beach and harbour at Porthdinllaen over the summer season. Are you an excellent communicator with good practical skills and an understanding of the marine environment? If you love the coast, enjoy working outdoors and chatting to people then this role could be for you.

A typical work week would involve working 10am-4pm 5 days per week (to include weekends and bank holidays).

Please note that the ability to converse in Welsh and English is essential for this role.

What it's like to work here

Mae Porthdinllaen yn gyrchfan adnabyddus ym Mhen Llyn ac mae'n denu miloedd o ymwelwyr i fwynhau’r lleoliad hardd trwy ymlacio ar y traeth, cerdded llwybrau'r arfordir, mynd i'r dwr neu ymweld a'r enwog Ty Coch y dafarn ar y traeth.

Mae'n lle sydd â hanes hynod gyfoethog a dynodiadau cadwraeth natur pwysig fel Ardal Gadwraeth Arbennig Pen Llyn a'r Sarnau. Mae hefyd yn gartref i un o'r gwelyau morwellt mwyaf yng Nghymru.

Mae harbwr Porthdinllaen yn darparu amddiffyniad rhag amodau gwynt a thonnau ac mae'n cysgodi rhag pob gwynt ond gwynt gogledd-ddwyrain. Mae gan ardal yr harbwr fewnol oddeutu 40 angorfa, gyda oddeutu 80 yn yr harbwr allanol.  Mae fflyd fechan o longau pysgota yn gweithredu o bentref Porthdinllaen, ac mae'r bae yn cael ei fynychu gan badau amrywiol gan gynnwys cychod hwylio, cychod sy'n cael eu gyrru gan bwer, badau dwr personol a padlfyrdd. Mae mynediad ar gyfer cychod a lansiwyd a threlar ar gael ym Morfa Nefyn.

Porthdinllaen is a well-known destination on the Llyn peninsula and attracts thousands of visitors to relax on the beach, walk the coastal footpaths or take to the water, whilst enjoying the beautiful setting and the famous Ty Coch Inn.

It’s a place with incredibly rich history and important nature conservation designations such as the Pen Llyn a’r Sarnau Special Area of Conservation. It’s also home to one of the largest seagrass beds in Wales.

Porthdinllaen harbour provides protection from wind and wave conditions and is sheltered from all but a north-easterly wind. The inner harbour area has around 40 moorings, with the outer harbour area having around 80 moorings.  A small fleet of fishing vessels operate from Porthdinllaen village, and the bay is frequented by visiting vessels including sailing boats, power driven vessels, personal watercraft and paddle craft. Occasionally larger commercial craft may anchor in deeper water away in the outer area of harbour. Access for trailer launched vessels is available at Morfa Nefyn.

Porthdinllaen | Llyn Peninsula | Wales | National Trust  

What you'll be doing

Bydd rhan fawr o'ch rôl yn cynnwys ymgysylltu â phobl a rhoi croeso i Borthdinllaen. Byddwch yn wyneb yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhorthdinllaen a byddwch yn gallu ateb ymholiadau a rhoi gwybodaeth i bobl a fydd yn gwella'u hymweliad. Byddwch hefyd yn sicrhau safonau uchel ar y safle, gan godi sbwriel yn ddyddiol a sicrhau bod y traeth yn glir o beryglon.

Mae diogelwch yn flaenoriaeth a byddwch yn hyrwyddo defnydd diogel a chyfrifol o'r ardal ac yn cynghori'r cyhoedd ar is-ddeddfau a pholisïau arfordirol lleol. Bydd y rôl wedi'i lleoli'n bennaf yn fynediad y traeth ym Morfa Nefyn yn goruchwylio lansio cychod, gan sicrhau bod cychod wedi'u cofrestru, a chasglu ffioedd lansio. Gall y rôl hefyd cwmpasu ardal ehangach y traeth a phentref Porthdinllaen ar adegau prysur, gan gymryd cyfrifoldeb am gadw Caban Griff (ein hystafell dehongli fach) a gweithdy'r harbwr feistr yn daclus.

Nod Prosiect Morwellt Porthdinllaen yw gwarchod y morwellt yn y bae. Byddwch yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect ac yn gallu hyrwyddo'r gwaith gyda'r cyhoedd gan gynyddu eu dealltwriaeth o'r cynefin pwysig hwn. Rydym yn prydlesu'r angorfeydd harbwr mewnol allan yn flynyddol. Byddwch yn monitro defnydd a chyflwr yr angorfeydd hyn yn rheolaidd drwy'r tymor.

Byddwch yn gyfforddus yn gweithio ar benwythnosau a gwyliau banc.

Darllenwch y proffil rôl lawn hefyd, ynghlwm â'r hysbyseb hon.

A big part of your role will involve engaging with people and providing a welcome to Porthdinllaen. You'll be the face of the National Trust at Porthdinllaen and will be able to answer queries and provide people with information that will enhance their visit. You'll also ensure high standards of presentation, carrying out daily litter picks and making sure the beach is clear of hazards.

Safety is a priority and you’ll be promoting safe and responsible use of the area and advising the public on local coastal by-laws and policies. The role will mainly be based at the beach access point at Morfa Nefyn supervising the launching of vessels, ensuring vessels are registered and collecting launching fees. The role may also cover the wider beach area and the village of Porthdinllaen at busier times and be responsible for keeping Caban Griff (our small interpretation space) and the harbour master’s workshop presentable.

The Porthdinllaen Seagrass Project aims to protect the seagrass in the bay. You’ll keep up to date with the project and be able to promote the work with the public increasing their understanding of this important habitat. We lease out the inner harbour moorings out annually. You'll monitor the use and condition of these moorings regularly through the season. 

Weekend and bank holiday working will be required.

Please also read the full role profile, attached to this advert.

Who we're looking for Er mwyn cyflawni'r rôl hon yn llwyddiannus, dylech gael: 
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol 
  • Y gallu i sgwrsio'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg
  • Ymrwymiad i safonau uchel o wasanaeth cwsmeriaid
  • Dull gweithgar gyda phrofiad o weithio'n annibynnol mewn sefyllfaoedd prysur ac ar dasgau ymarferol
  • Gwybodaeth am weithgarwch morwrol e.e. cychod, angorfeydd, lansio a diddordeb yn yr amgylchedd morol.   
 To deliver this role succe

Reference: 52471420

Please note Reed.co.uk does not communicate with candidates via Whatsapp, and we will never ask you to provide your bank, passport or driving licence details during the application process. To stay safe in your job search and flexible work, we recommend visiting JobsAware, a non-profit, joint industry and law enforcement organisation working to combat labour market abuse. Visit the JobsAware website for information and free expert advice for safer work.

Report this job